P-05-971 Dylid llacio’r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan ddeddfwriaeth COVID-19 er mwyn caniatáu i bobl deithio yng Nghymru
Cyflwynwyd y ddeiseb hon gan Sean Murphy, ar ôl casglu cyfanswm o 15,192 lofnodion.
Geiriad y ddeiseb:
Ar 29 Mai, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru newidiadau i’r cyfyngiadau a gyflwynwyd gan y rheoliadau COVID-19. Cafodd y rheolau eu llacio ond mae gofyniad i bobl aros yn lleol o hyd. Mae’r rheolau hyn yn atal teuluoedd sy’n byw yn bell o’i gilydd rhag cwrdd ac yn atal y rhan fwyaf o bobl rhag ymarfer corff ar lan y môr neu yng nghefn gwlad. Nid oes dim rheswm pam na all pobl gadw pellter cymdeithasol yn haws yn yr awyr agored. Mae’r cyfyngiadau wedi’u llacio eisoes yn Lloegr ac yng Ngogledd Iwerddon.
Gwybodaeth Ychwanegol:
https://llyw.cymru/canllawiau-ar-y-newidiadau-i-reoliadaur-coronafeirws-o-1-mehefin#section-43071
https://llyw.cymru/rheoliadau-diogelu-iechyd-cyfyngiadau-coronafeirws-cymru-2020-fel-yu-diwygiwyd
https://www.nidirect.gov.uk/articles/coronavirus-covid-19-overview-and-advice
https://www.gov.uk/coronavirus
Etholaeth a Rhanbarth y Cynulliad
· De Caerdydd a Phenarth
· Canol De Cymru